Cwrdd â Llais Pobl Ifanc Ar-lein
Elodie, 14, Swydd Down
Emily, 14, Gorllewin Canolbarth Lloegr
Finn, 14, Dwyrain Swydd Dunbarton
James J, 14, Gogledd Gwlad yr Haf
James T, 17, Armagh
Leo, 15, Llundain
Liidia, 14, Glasgow
Malia, 15, Gorllewin Canolbarth Lloegr
Mika, 16, Canolbarth Lloegr
Rayhaan, 17, Swydd Gaerlŷr
Shalom, 14, Bolton
Tiffany, 16, Dyfnaint
Will, 14, Swydd Nottingham
Zara, 14, Birmingham
Ein Maniffesto ar gyfer Newid
Ni yw Llais Ieuenctid Ar-lein yr NSPCC, sef grŵp o 14 o bobl ifanc 14-17 oed o bob cwr o’r DU. Rydyn ni yma i greu dyfodol lle mae profiad pob plentyn ar-lein yn un cadarnhaol. Rhaid i leisiau ein cenhedlaeth gael gwrandawiad.
Er mis Ebrill 2024, rydym wedi bod yn datblygu ein maniffesto arloesol ar gyfer newid, sy’n datgan ein 5 blaenoriaeth.
Bydd y rhain:
- Yn golygu y gallwn bwyso am weithredu mewn meysydd fel diogelwch, preifatrwydd ac addysg.
- Yn sicrhau bod gan bobl ifanc gynrychiolaeth.
- Yn rhoi inni ran amlwg mewn gwneud penderfyniadau, codi ymwybyddiaeth, a rheoleiddio’r byd ar-lein.
- Yn sicrhau bod y rhyngrwyd yn parhau i fod yn lle cadarnhaol a chalonogol i bobl ifanc.
Fe wnaethom ddewis y 5 blaenoriaeth yma oherwydd ein bod ni’n credu mai nhw yw’r pryderon mwyaf perthnasol i’n cenhedlaeth ni. Rydym hefyd yn credu mai dyma’r meysydd lle mae gwir angen i bethau newid.
Byddwn yn gweithio drwy gwrdd â’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau allweddol, gyda chefnogaeth yr NSPCC a’r bobl maen nhw’n gweithio gyda nhw. Fe wnânt ein helpu i gyflawni ein blaenoriaethau, gan greu’r newidiadau y mae angen i ni eu gweld.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith, ewch i npscc.org.uk/VoiceOfOnlineYouth.
Llwythwch ein maniffesto (PDF)
Y problemau a welwn:
Mae addysg diogelwch ar-lein yn aml yn hen ffasiwn ac yn amherthnasol, ac yn methu â rhoi sylw i'r heriau go iawn y mae plant yn eu hwynebu. Ac mae'r adnoddau ar gyfer rhieni wedi’u seilio ar yr hyn y mae rhieni’n ei feddwl ydy’r problemau, nid y problemau go iawn y mae plant yn eu hwynebu.
Yr atebion rydym am eu cael:
Rydyn ni eisiau i bob oedolyn gael ei addysgu’n well i helpu pobl ifanc gyda’r materion maen nhw’n gorfod delio â nhw ar-lein. Mae angen i’r gefnogaeth hon gael ei siapio gan blant a’u profiadau. Mae angen iddi fod yn berthnasol ac yn briodol i oedran, gan dynnu sylw at gefnogaeth sy’n canolbwyntio ar y plentyn. Mae angen i bobl ifanc allu chwarae rhan bwysig yn y gwaith o’i siapio.
Y problemau a welwn:
Nid yw offer deallusrwydd artiffisial yn cael eu rheoleiddio eto, ac mae hynny’n arwain at ddatblygiadau nad oes neb yn cadw golwg arnynt ac nad oes neb yn atebol amdanynt. Gall botiau sgwrsio deallusrwydd artiffisial fod yn annibynadwy ac mae ganddynt y potensial i ledaenu camwybodaeth sy’n gallu arwain at niwed difrifol. Hefyd, gall unrhyw un ddefnyddio offer deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol ar gyfer llais, delweddau a fideos i greu beth bynnag maen nhw eisiau heb ganlyniadau.
Yr atebion rydym am eu cael:
Cyflwyno rheoliadau caeth ar gyfer Deallusrwydd Artiffisial i wneud yn siŵr ei fod yn cael ei ddatblygu’n gyfrifol, gan sefydlu atebolrwydd i grewyr a safonau moesegol clir. Gweithredu prosesau profi trylwyr ar gyfer systemau deallusrwydd artiffisial i atal camwybodaeth a chyfyngu ar yr hyn y bydd deallusrwydd artiffisial yn rhoi cyngor arno. Dylid bod cyfyngiadau ar y math o gynnwys y gall offer deallusrwydd artiffisial ei greu, yn enwedig o ran cynnwys rhywiol.
Y problemau a welwn:
Mae hysbysebion ar-lein bellach yn rhan arferol o’r cynnwys y mae pobl ifanc yn ei weld ar-lein, ac mae hynny’n peryglu cael effaith negyddol ar eu hunan-barch a’u hymddygiad. Pan fydd dylanwadwyr yn hysbysebu i bobl ifanc, efallai na fyddan nhw bob amser yn dweud y gwir am yr hyn maen nhw’n ei werthu. Yn y pendraw mae cwmnïau technoleg yn rhoi blaenoriaeth i hysbysebion ar draul diogelwch a lles pobl ifanc.
Yr atebion rydym am eu cael:
Rheoliadau mwy caeth ar hysbysebion ar-lein y gallai pobl ifanc eu gweld, a’i gwneud yn haws adnabod y bobl hynny sy’n cael eu talu i gymeradwyo cynhyrchion. Dylai deallusrwydd artiffisial gael ei reoleiddio mewn hysbysebion a chynnwys sy’n cymeradwyo cynhyrchion. A dylai adnoddau addysgol edrych ar effaith hysbysebion ar-lein ar bobl ifanc, a’u helpu i gael mwy o reolaeth dros yr hyn maen nhw’n ei weld yn eu ffrwd.
Y problemau a welwn:
Nid yw’r adnoddau sydd ar gael i riportio ymddygiad niweidiol ar gyfryngau cymdeithasol yn amddiffyn plant a phobl ifanc. Maen nhw’n aml yn gymhleth ac yn aneglur, sy’n golygu bod plant a phobl ifanc yn llai tebygol o riportio problemau. Nid yw'r adnoddau riportio ar blatfformau blaenllaw yn effeithiol, ac mae pobl ifanc yn aml yn teimlo nad oes dim yn digwydd pan maen nhw yn riportio. Maen nhw hefyd yn teimlo nad oes cefnogaeth effeithiol i’w chael.
Yr atebion rydym am eu cael:
Dylid creu offer riportio haws a chanllawiau clir i ddefnyddwyr iau. Pan fydd pobl ifanc yn riportio cynnwys, dylai ymateb clir a chyflym roi gwybod i bobl ifanc bod y mater yn cael sylw, a dweud wrthynt ble i fynd i gael cymorth ychwanegol. Dylid bod pobl go iawn yn cymedroli’r ymateb a’r gefnogaeth hon, a dylent gyfeirio plant a phobl ifanc at wasanaethau a sefydlwyd yn benodol ar gyfer pobl ifanc fel Childline.
Y problemau a welwn:
Mae preifatrwydd a rhannu data yn aml yn golygu optio i mewn yn ddiofyn ac mae pobl ifanc yn ansicr pa wybodaeth sy’n cael ei chasglu amdanynt a pham, gan eu gwneud yn agored i risgiau preifatrwydd a bod eu data’n cael ei ddefnyddio heb iddynt fod yn llwyr ymwybodol o hynny. Yn ogystal, mae modelau deallusrwydd artiffisial yn cael eu hyfforddi gan ddefnyddio data heb ganiatâd, ac mae hynny’n gwneud pobl ifanc yn fwy ofnus ynglŷn â chamwybodaeth deallusrwydd artiffisial.
Yr atebion rydym am eu cael:
I roi sylw i beryglon preifatrwydd i bobl ifanc, dylai platfformau symud at optio allan o rannu data yn ddiofyn, defnyddio fframweithiau cydsyniad ar sail oedran, a bod yn gliriach ynghylch sut mae data’n cael ei ddefnyddio. Dylai diweddariadau diogelwch neu fanylion preifatrwydd a gyflwynir fod yn addas i bobl ifanc, fel eu bod yn hawdd eu darllen a’u deall.
Rhagor o wybodaeth am sut i gadw plant yn ddiogel ar-lein
Cefnogir yn falch gan ein partner Vodafone UK.