Gall camdriniaeth ddifetha plentyndod ac mae ei effeithiau yn gallu para am oes. Ond, gyda’ch help chi, rydyn ni’n gweithio i atal achosion o gam-drin yng Nghymru – a helpu plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu cam-drin i ailadeiladu eu bywydau.
Ein Gwasanaethau yng Nghymru
Rydyn ni’n cefnogi teuluoedd yng Nghymru pan fydd ein hangen arnynt er mwyn gwneud yn siŵr bod plant yn cael y cyfle gorau mewn bywyd.
Mae ein Canolbwynt Cenedlaethol yn cynnig cymorth i blant, i deuluoedd ac i weithwyr proffesiynol. Rydyn ni’n cefnogi rhieni a theuluoedd i ofalu am eu plant ac yn darparu cymorth therapiwtig i helpu plant i symud ymlaen o gamdriniaeth.
Hefyd rydyn ni’n rhoi cymorth a chefnogaeth drwy linell gymorth yr NSPCC, Childline a’n gwaith gydag ysgolion.
- InCtrl
- Meddwl am Feichiogrwydd
Cymorth a chyngor i blant a phobl ifanc am ystod eang o faterion, a chymorth ar-lein a dros y ffôn, unrhyw bryd. Mae gan Childline 2 ganolfan yng Nghymru a gallwch gysylltu â Childline yn Gymraeg.
Mae llinell gymorth yr NSPCC yn lle i oedolion gysylltu drwy ffonio neu drwy fynd ar-lein i gael cyngor neu i rannu eu pryderon am blentyn, yn ddienw os ydynt yn dymuno. Mae gennym ni wasanaeth cyfieithu ar y pryd y gallwch chi gael mynediad ato i gysylltu â’r llinell gymorth yn Gymraeg neu mewn ieithoedd eraill.
Mae 1 o bob 5 plentyn yn y DU wedi dioddef camdriniaeth, sy’n difetha eu plentyndod. Dyna pam rydyn ni’n ymweld ag ysgolion cynradd ledled Cymru i roi’r wybodaeth sydd ei hangen ar blant i aros yn ddiogel rhag niwed ac i ddweud wrth rywun os ydyn nhw’n poeni.
Gwirfoddoli yng Nghymru
Ymunwch â’r frwydr dros bob plentyndod drwy un o’n cyfleoedd gwirfoddoli yng Nghymru.
Ymunwch â’n tîm gwasanaeth ysgolion fel gwirfoddolwr i helpu i gadw plant yn ddiogel rhag cael eu cam-drin, a rhoi’r hyder iddyn nhw i chwilio am gymorth os bydd ei angen arnynt. Hefyd, mae angen gwirfoddolwyr arnom sy’n gallu rhannu’r negeseuon hollbwysig hyn mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.
Mae Childline wedi bod yn lle diogel i blant ers 30 mlynedd. Ond nawr, dim ond i 3 o bob 4 plentyn sydd ag angen ein help rydyn ni’n gallu ymateb. Helpwch ni i fod yn gefn i fwy o blant drwy un o’n rolau gwirfoddoli.
Ffeindiwch allan mwy am wirfoddoli
Ymunwch â’n gwirfoddolwyr codi arian gwych a busnesau bach ledled Cymru i’n helpu i frwydro dros bob plentyndod.
Ymgyrchu
Rydyn ni’n rhoi llais i blant pan nad oes neb yn gwrando. Rydyn ni’n sefyll i fyny dros blant yng Nghymru drwy ganfod y ffordd orau i atal cam-drin ac esgeuluso. Rydyn ni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru i gryfhau polisïau a deddfwriaeth yn eu hannog i gymryd camau i ddiogelu plant yn well. Dewch yn ymgyrchydd a helpwch ni i fynnu ei bod yn werth brwydro dros holl blant Cymru.
Mae hyd at 1 o bob 5 o famau yn y DU yn dioddef o broblemau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl geni. Mynnwch gefnogaeth iechyd meddwl i bob mam er mwyn i bob plentyn a phob teulu gael y dechrau gorau.
O sgrechian yn yr archfarchnad i golli arni yn ystod amser bwyd, mae ymddygiad plant yn gallu bod yn heriol. Os ydych yn teimlo ar ben eich tennyn, Camwch yn ôl am 5 a dilynwch ein camau syml tuag at rianta cadarnhaol.
Ein nod yw dysgu’r rheol PANTS i rieni a phlant. Mae gennym ystod o ganllawiau PANTS ar gyfer rhieni a gofalwyr gan gynnwys canllawiau Cymraeg.
O'r funud y caiff eich babi ei eni, bob tro rydych chi’n siarad, yn canu neu’n chwarae gydag ef, nid yn unig rydych chi’n bondio, rydych chi’n datblygu ei ymennydd. Cofrestrwch i gael awgrymiadau ar ddatblygu’r ymennydd.
Cysylltu â Ni
Tŷ Diane Engelhardt
Llys Treglown
Heol Dowlais
Caerdydd
CF24 5LQ
Cyswllt y cyfryngau
walespressoffice@nspcc.org.uk
02920 108134
Canolbwynt Cenedlaethol
Tŷ Diane Engelhardt
(Uned 2) Llys Treglown
Heol Dowlais
Caerdydd
CF24 5LQ
02920 108080