A group of adults and children from different ethnicities and representing different backgrounds.

Bydd yn Glust, Bydd yn Llais

Gallwch helpu i gadw plant yn ddiogel. Mae gweithredoedd bach yn gwneud gwahaniaeth mawr.

Cliciwch i gael awgrymiadau a chyngor
Cliciwch i gael awgrymiadau a chyngor

Gall ein hawgrymiadau a’n cyngor eich helpu i fagu’r hyder i chwarae eich rhan.

P’un a ydych chi’n rhiant, yn gymydog neu’n ffrind i’r teulu, mae’n bosibl y byddwch chi’n sylwi ar rywbeth am blentyn sy’n eich poeni chi. Efallai mai chi yw’r unig un i sylwi ar rywbeth, neu’r unig un sy’n ymwybodol o fanylion nad yw pobl eraill yn ymwybodol ohonyn nhw. Mae’n bwysig eich bod yn gwybod beth i’w wneud.

Cliciwch i gael awgrymiadau a chyngor

Yn cyflwyno: Byddwch yn Glust, Byddwch yn Llais

“Nid yw’n cymryd llawer o amser, ond mae’n tynnu sylw at yr arwyddion pwysig i gadw llygad amdanyn nhw.”

Hoffech chi gynnal gweithdy?

Mae’r NSPCC yn cynnig gweithdy Bydd yn Glust, Bydd yn Llais wyneb yn wyneb neu ar-lein sy’n awr o hyd. Mae’r gweithdai yn rhad ac am ddim. Os oes gan eich ysgol, clwb, grŵp cymunedol neu weithle ddiddordeb mewn cynnal gweithdy, anfonwch e-bost at ein Gwasanaeth Ymgyrchoedd Lleol. Cofiwch gynnwys enw a lleoliad eich sefydliad yn eich e-bost.

Sylwch, rydym yn gofyn am o leiaf 10 o bobl ym mhob sesiwn ac ni allwn warantu y bydd llefydd ar gael.

Anfonwch e-bost at ein Gwasanaeth Ymgyrchoedd Lleol

Ydych chi’n poeni am blentyn?

Os ydych chi’n poeni am blentyn, neu hyd yn oed os ydych chi’n ansicr, cysylltwch â’n Llinell Gymorth i siarad ag un o’n cwnselwyr. Ffoniwch ni ar 0808 800 5000 neu anfon neges e-bost i help@nspcc.org.uk

Cysylltwch â’r Llinell Gymorth